Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17 Medi 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


226 (v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwella Sicrwydd Deiliadaeth

(30 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Gwên - 10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru - Cyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig

(0 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru

(45 munud)

</AI6>

<AI7>

7       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit

(30 munud)

</AI7>

<AI8>

8       Dadl: Tasglu'r Cymoedd

(60 munud)

NDM7129 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De o ran cefnogi datblygu economaidd ar draws y rhanbarth.

2. Yn nodi’r diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf.

3. Yn croesawu’r saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.

4. Yn croesawu’r cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi mai'r ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.

 

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn gresynu nad oes gan gynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ddigon o uchelgais i helpu i gefnogi cymunedau'r Cymoedd.

Tasglu'r Cymoedd: Yn cyflawni newid yng Nghymoedd De Cymru

 

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r cynnydd o 40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru ers 2009 a'r angen am atebion cyllido a gorfodi i sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn mynd i'r afael â'r problemau tai yn ardal y tasglu.

 

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y canlyniadau diriaethol disgwyliedig a chyflwyno cynllun manwl sy'n amlinellu manteision y tasglu fesul cwm, a chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau hynny.

 

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i lunio llinell gyllideb benodol ar gyfer tasglu'r Cymoedd a fydd yn cael ei chynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar fin ymddangos.

 

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu pwyllgor arbennig dros dro gyda chylch gwaith penodol i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am waith Tasglu'r Cymoedd ac i aelodaeth y pwyllgor gynnwys Aelodau'r Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau'r cymoedd.

Gwelliant 7 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyfleoedd i wella Ein Cymoedd, Ein Dyfodol o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllido gan Lywodraeth y DU a fydd yn darparu £600 miliwn yn ychwanegol yn 2019-2020 i grant bloc Cymru.

</AI8>

<AI9>

9       Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

(60 munud)

NDM7130 - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2019;

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 2 Awst 2019.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid


</AI9>

<AI10>

10    Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

(5 munud)

NDM7131 - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI10>

<AI11>

11    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Medi 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>